Cu@Swansea Project
Mae Cu@Swansea yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe a Dinas a Sir Abertawe sy’n ceisio rhoi bywyd newydd i safle’r hen Waith Copr Hafod-Morfa.
Yn 2012 cychwynnodd Prosiect Cu@Swansea raglen o waith ymarferol i ail-adfer y safle o’i gyflwr diffaith ac i alluogi pobl i ymweld â’r safle ac ailgysylltu ag ef.
- Mae’r gwaith wedi cynnwys:
- Atgyfnerthu adeiladau sydd yn y perygl mwyaf yn cynnwys Adeilad y Labordy a waliau’r gamlas.
- Glanhau llystyfiant a gosod rheiliau newydd i amlygu golygfeydd o’r adeiladau.
- Creu llwybrau, mannau gwylio ac ardaloedd eistedd newydd.
- Gosod llwybrau dehongli a llwybrau sain
- Gosod nodweddion celf newydd
- Creu maes parcio newydd
Bu’r prosiect hefyd wrthi’n gwneud amrywiaeth o weithgareddau i gysylltu gyda chymaint o bobl â phosib yn cynnwys y cyhoedd, ysgolion a grwpiau cymunedol. Mae gan Waith Copr Hafod-Morfa le pwysig yn atgofion, hanesion a hunaniaeth pobl leol ac mae’r broses o ail-gysylltu pobl gyda’r rhan bwysig hon o’u hanes wedi bod yn bwysig ac yn werthfawr. Mae grŵp cyfeillion cryf wedi’i ffurfio ac mae grwpiau ysgolion a’r cyhoedd wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ac mae dros 8000 o bobl wedi dod i ddigwyddiadau ar y safle.
Mae partneriaeth Cu@swansea yn ddiolchgar am gyllid o £541,000 gan brosiect Twristiaeth Treftadaeth Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei weinyddu gan Cadw. Mae’n cynnwys £277,000 gan Lywodraeth Cymru a swm o £244,000 gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Yn dilyn hynny sicrhaodd y prosiect £500,000 arall gan Lywodraeth Cymru (Ardal Adfywio Abertawe).
Mae Prifysgol Abertawe wedi gallu cael gafael ar gyllid ymchwil ychwanegol mewn perthynas â’i brosiect Cymunedau Cysylltiedig (dolen at safle Cymunedau Cysylltiedig fan hyn ??) ac mae wedi cyfrannu dros £100,000 mewn amser staff fel arian cyfatebol. Mae tri myfyriwr doethuriaeth wedi datblygu eu hymchwil ar y safle ac mae deuddeg o fyfyrwyr eraill wedi cyfrannu eu sgiliau ymchwil a’u hadnoddau i symud y prosiect ymlaen.
Derbyniodd Cu@Swansea wobr Parthian a Llyfrgell Genedlaethol Cymru am effaith eithriadol ar ddiwylliant, y celfyddydau a chwaraeon. Cafodd gwaith treftadaeth prosiect cysylltiedig Cymunedau Cysylltiedig hefyd ei enwebu am wobrau THE (Times Higher Education).
Mae gwaith yn parhau i ddatgloi potensial y safle ac i adfer y swyddogaethau yr oedd y safle’n eu darparu’n draddodiadol, sef arloesedd, addysg, entrepreneuriaeth, creu cyfoeth ac arweiniad byd-eang.